Symud i gynnwys | Symud i lywio | Datganiad hygyrchedd

Governors Wales Logo

Governors Wales Logo

Llywodraethwyr Cymru

Governors Wales

Read this page in English

 

Helpline

Amdanom ni

Llywodraethwyr Cymru, a sefydlwyd ym 1995, yw llais llywodraethwyr ysgolion yng Nghymru.
Mae ein prif swyddfa yn Sgwâr Mount Stuart yng nghanol Bae Caerdydd. Cliciwch yma am ragor o fanylion am leoliad.

Mae Llywodraethwyr Cymru wedi ymrwymo i gefnogi rheolaeth effeithiol a darpariaeth cyfleoedd dysgu o ansawdd uchel i holl ddisgyblion a phobl ifanc yng Nghymru.

Mae gwaith Llywodraethwyr Cymru yn cydnabod bod llywodraethwyr yn rhoi o’u hamser, profiad ac arbenigedd yn wirfoddol i helpu eu hysgolion a’r cymunedau a wasanaethant.

Rydym yn rhannu’r angerdd gyda rhieni, athrawon, pobl ifanc a’r gymuned leol i gefnogi ysgolion i ddarparu’r profiad dysgu gorau posibl i bawb.

Mae Llywodraethwyr Cymru yn cydnabod bod llywodraethwyr yn atebol am ymddygiad a safonau ysgolion yng Nghymru. Nod Llywodraethwyr Cymru yw cefnogi llywodraethwyr a bod yn eiriolydd ar gyfer eu pryderon a’u buddiannau. Rydym yn cynrychioli barn llywodraethwyr ar bob mater sydd yn effeithio ar ysgolion ac yn eu helpu i lywodraethu eu hysgolion yn effeithiol.

Cliciwch yma am Ddatganiad o Werthoedd

Mae Llywodraethwyr Cymru un darparu’r gwasanaethau canlynol i rhoi gymorth i chi yn eich rôl fel llywodraethwr:

Llinell Gymorth

Gellir defnyddio ein llinell gymorth i drafod materion am lywodraethu ysgolion. Bydd person profiadol yn ateb eich galwad ac yn trafod eich pryderon yn gyfrinachol. Defnyddiwch y llinell gymorth os ydych angen ffynhonnell annibynnol o wybodaeth, cyngor ac arweiniad a chlust gydymdeimladol ond gwrthrychol.

Rhif ffôn llinell gymorth Llywodraethwyr Cymru 0845 60 20 100. Mae pob galwad yn costio’r raddfa leol.

Mae’r llinell gymorth ar gael rhwng 9.00a.m. a 10.00p.m. yn ystod yr wythnos a rhwng 11.00a.m. a 4.00p.m ar benwythnosau, ac eithrio ar wyliau banc.

Mae gwasanaeth dwyieithog ar gael.

Canllaw Cyhoeddedig

Mae Llawlyfr Llywodraethwyr Cymru yn darparu canllaw defnyddiol i lywodraethwyr sydd newydd eu penodi ac i lywodraethwyr mwy profiadol ynglŷn â’u dyletswyddau a’u cyfrifoldebau a chynghorion ymarferol ac enghreifftiau o ymarfer da i gyrff llywodraethu.

Caiff rhifyn newydd o’r llawlyfr ei ddosbarthu ym mis Medi 2007. Bydd modd cael y llawlyfr hefyd ar ffurf PDF o’r wefan.

Ffeiliau Ffeithiau/Canllawiau Llywodraethwyr

O dro i dro mae Llywodraethwyr Cymru yn cyhoeddi dogfennau cyfoes i lywodraethwyr ysgolion, a gellir cael gafael arnynt yn adran cyhoeddiadau’r wefan hon. Mae enghreifftiau yn amrywio o bolisïau a dogfennau statudol i ganllawiau i lywodraethwyr ar atal bwlio etc.

Swyddogion Datblygu

Mae ein Swyddogion Datblygu ar gael i gefnogi gwaith cymdeithasau lleol ac os oes angen, cyrff llywodraethu neu lywodraethwyr unigol. Maent hefyd yn helpu i sicrhau partneriaeth waith agos rhwng Llywodraethwyr Cymru ac Awdurdodau Addysg Lleol.

Ein Swyddogion Datblygu yw:

Mike Barkeryn gyfrifol am Ganolbarth a De Cymru
Ffôn: 01597 825318 Symudol: 07866 453857
Ebost: mbarker@governorswales.org.uk

Ray Wellsyn gyfrifol am Ganolbarth a Gogledd Cymru
Ffôn: 01352 751360 Symudol: 07837 528885
Ebost: rwells@governorswales.org.uk

Cymorth i Gymdeithasau Lleol

Mae Cymdeithasau Lleol i Lywodraethwyr yn bodoli yn y rhan fwyaf o ardaloedd addysg yng Nghymru. Maent yn galluogi trafodaethau lleol a ysgolion a’u llywodraethu, ar faterion lleol neu genedlaethol. O ganlyniad i drafodaeth leol mewn Cymdeithasau Lleol ledled Cymru gall Llywodraethwyr Cymru ddylanwadu ar y ffordd y mae cyrff llywodraethwyr yn cyflawni eu gwaith. Mae ein Swyddogion Datblygu yn helpu Cymdeithasau Lleol i gynllunio a gweithredu eu rhaglenni gwaith sydd yn gallu cynnwys cyfarfodydd busnes rheolaidd, seminarau, cynadleddau ac yn y blaen. Bydd pob Cymdeithas Leol yn cyhoeddi eu gweithgarwch ar y safle hon yn y dyfodol agos.

I gysylltu â’ch Cymdeithas Leol ffoniwch eich Swyddog Datblygu. Mae gwybodaeth ychwanegol ar gael hefyd yn adran cymdeithasau lleol ar y wefan.

Llywodraethwyr Cymru

Llawr Cyntaf, Ty Empire, Sgwar Mount Stuart
Bae Caerdydd, Caerdydd. CF10 5FN

Llinell Gymorth: 0845 60 20 100

Telephone: 02920 48 78 58 Ffacs: 02920 48 78 43

Telerau ac Amodau