Astudiaeth Achos 15

Mae corff llywodraethu Ysgol Gynradd Bro Parc Newydd wrthi’n adolygu eu polisïau. Mae’r Awdurdod Lleol wedi cynhyrchu polisi staffio ac wedi’i anfon at y corff llywodraethu i’w fabwysiadu yn eu cyfarfod nesaf. Mae’r nodyn drafftio ar waelod tudalen 2 o’r polisi yn crybwyll ‘gall ysgolion addasu’r polisi enghreifftiol yma tra’n dal i dalu sylw i ddarpariaethau statduol’. Mae hefyd yn datgan bod y ‘corff llywodraethu, y pennaeth a’r Awdurdod Lleol wedi cytuno ar y polisi yn dilyn ymgynghori gydag aelodau’r staff a’r undebau llafur cydnabyddedig.’ Hoffai’r llywodraethwyr wybod os ydyn nhw’n gallu addasu’r polisi i ddelio gydag anghenion yr ysgol.

Y corff llywodraethu sydd yn gyfrifol am fabwysiadu polisïau’r ysgol. Mae Rheoliad 5 o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Cymru) 2000 yn datgan:-

  1. Fe fydd y corff llywodraethu yn ymarfer ei swyddogaethau gyda golwg ar gyflawni rôl strategol eang yn y gwaith o redeg yr ysgol.
  2. Fe fydd y corff llywodraethu yn sefydlu fframwaith strategol ar gyfer yr ysgol trwy—
    – (a) gosod nodau ac amcanion i’r ysgol;
    – (b) gosod polisïau i’r ysgol i gyflawni’r nodau a’r amcanion;
    – (c) gosod targedau i gyflawni’r nodau a’r amcanion.

Er mai’r Awdurdod Lleol ydy cyflogwr y staff mewn Ysgolion Bro, mae swyddogaethau staffio wedi cael eu diprwyo i’r corff llywodraethu o dan Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006 Ond, yr Awdurdod Lleol, fel y cyflogwr, sydd yn y pen draw yn atebol am unrhyw atebolrwydd mewn perthynas â staff mewn ysgolion.

Os ydy’r corff llywodraethu yn dewis peidio â mabwysiadu’r polisi staffio hwn, a’r ALl yn tynnu unrhyw atebolrwydd yn y dyfodol o ganlyniad, gall yr ALl ddadlau nad ymrwymiad hwn yn eu bai, ond yn hytrach bod yr ysgol unigol. Er nad oes unrhyw ddarpariaeth yn y ddeddfwriaeth i’r ALl adfer unrhyw rwymedigaeth y gall fod ganddyn nhw yn y dyfodol o gyllideb ddirprwyedig yr ysgol, fel rheol mae yna ddarpariaethau cyffredin yng nghynllun dirprwyo’r ALl (sydd yn cyllido’r ysgol) sydd yn datgan y gellir codi tâl yn ôl i gyllideb yr Ysgol mewn perthynas ag unrhyw ddyfarniadau a wnaethpwyd, er enghraifft:

  • Trwy dribiwnlysoedd yn erbyn yr Awdurdod Lleol neu
  • Setliadau allan o’r llys yn deillio o weithredu neu ddiffyg gweithredu gan y corff llywodraethu yn groes i gyngor yr Awdurdod Lleol.

Ond mae’n amlwg mai mater i’r corff llywodraethu ydy mabwysiadu polisïau’r ysgol ac nid yr ALl, fe fyddai’n anodd felly i’r Awdurdod Lleol ddadlau y dylen nhw adfer unrhyw gostau o gyllideb ddirprwyedig yr ysgol pe bydden nhw’n dioddef unrhyw golled ariannol o ganlyniad i unrhyw benderfyniad gan y corff llywodraethu i beidio â gweithredu’r polisi, er nid yn amhosibl. Dylai’r corff llywodraethu gofio hefyd y bydd unrhyw newidiadau a wneir i bolisïau sydd yn effeithio ar staff yr ysgol, yn destun ymgynghori gyda’r partïon a’r undebau llafur perthnasol cyn eu mabwysiadu’n ffurfiol.

Noder: Dydy Polisi Rheoli Perfformiad Ysgolion ddim yn gynwysiedig yn y gyngor uchod, hynny ydy mae’r corff llywodraethu, yr Awdurdod Lleol a’r pennaeth yn adolygu ac yn addasu’r polisi yma ar y cyd. Os na ellir dod i gytundeb ynghylch y polisi yma, yna cyfrifoldeb yr Awdurdod Lleol ydy penderfynu ar y polisi. Rhaid ymgynghori gydag athrawon yr ysgol hefyd.