Symud i gynnwys | Symud i lywio | Datganiad hygyrchedd

Governors Wales Logo

Governors Wales Logo

Llywodraethwyr Cymru

Governors Wales

Read this page in English

 

Helpline

Astudiaeth Achos 3

Noder mai ffuglen yw’r astudiaeth achos isod ac nid yw o angenrhaid yn cynrychioli’r gweithdrefnau cywir fel a nodir yn y rheoliadau. Mae wedi ei ddylunio yn unig i bryfocio ac i annog trafodaeth.

Mae clerc Ysgol Gynradd y Bryn yn anfon papurau ar gyfer cyfarfodydd y corff llywodraeth dridiau o flaen llaw yn rheolaidd. Er bod y llywodraethwyr wedi cwyno ynglyn â‘r rhybudd byr o ran derbyn papurau perthnasol, yn enwedig gan eu bod yn teimlo nad yw tridiau yn ddigon o amser i lywodraethwyr baratoi ar gyfer eitemau pwysig ar yr agenda, mae’r clerc yn bendant ei bod yn cyflawni ei gofyniad statudol fel yr hysbyswyd yn ddiweddar mewn sesiwn hyfforddi i glercod.

Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005
Rhan 8, Rheoliad 45 (paragraffau 4–7)

4. Yn ddarostyngedig i baragraffau (5), (6) a (7), rhaid i’r clerc roi hysbysiad ysgrifenedig o’r
cyfarfod, copi o’r agenda, ac unrhyw adroddiadau neu bapurau eraill sydd i’w hystyried yn y
cyfarfod o leiaf bum niwrnod gwaith clir ymlaen llaw i—

(a) pob llywodraethwr;

(b) y pennaeth (boed yn llywodraethwr neu beidio); ac

(c) yr awdurdod addysg lleol.

5. Pan fo’r cadeirydd yn penderfynu hynny, ar y sail bod materion sy’n galw am sylw brys, bydd
yn ddigon i’r hysbysiad ysgrifenedig am y cyfarfod nodi’r ffaith honno ac i’r hysbysiad, y copi o’r
agenda, yr adroddiadau a’r papurau eraill sydd i’w hystyried gael eu rhoi o fewn cyfnod byrrach
yn ôl ei gyfarwyddyd.

6. Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gyfarfod lle bo—

(a) diswyddo’r cadeirydd neu’r is-gadeirydd,

(b) atal unrhyw lywodraethwr,

(c) diswyddo llywodraethwr cymunedol neu noddwr-lywodraethwr, neu

(ch) penderfyniad i gyflwyno hysbysiad i ddirwyn yr ysgol i ben o dan adran 30 o Ddeddf 1998

i gael ei ystyried.

7. Pan fo paragraff (6) yn gymwys—

(a) rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig o’r cyfarfod, copi o’r agenda ac unrhyw adroddiadau neu
bapurau eraill i’w hystyried yn y cyfarfod o leiaf saith niwrnod gwaith clir ymlaen llaw; a

(b) nid yw pŵer y cadeirydd i roi cyfarwyddyd i gynnal cyfarfod o fewn cyfnod byrrach yn
gymwys.

Cliciwch yma ar gyfer Astudiaeth Achos 4

Dilyn ni ar:
Twitter Twitter Twitter

Twitter

Llywodraethwyr Cymru

Llawr Daear, 3 Llys Oaktree, Rhodfa Mulberry
Parc Busness Porth Caerdydd, Caerdydd. CF23 8RS

Llinell Gymorth: 0845: 0845 60 20 100

Ffôn: (029) 2073 1546 Ffacs: (029) 2073 2448

Telerau ac Amodau