Astudiaeth Achos 6

Mae Mr Sims, rhiant lywodraethwr, yn cwyno wrth y cadeirydd bod llywodraethwr arall wedi torri cyfrinachedd ynghylch ei fab ei hun y cafwyd trafodaeth am ei ymddygiad mewn cyfarfod llywodraethwyr diweddar lle nad oedd Mr Simms yn bresennol. Mae’r sefyllfa wedi bod braidd yn anodd rhwng y ddau lywodraethwr. Mae Mr Simm wrthi ar hyn o bryd yn troi ei gwyn yn un ffurfiol ysgrifenedig i’w chyflwyno i gadeirydd y corff llywodraethu. Mae’r cadeirydd yn bwriadu anwybyddu’r mater gan obeithio y bydd y drwgdeimlad yma yn datrys ei hun ymhen amser.

Ni fyddai’n briodol ‘anwybyddu’r’ gwyn; fe fydd yn ysgrifenedig ac felly bydd angen cynnal ymchwiliad. Fe fyddai’r broses i’w dilyn wedi’i nodi yng ngweithdrefn gwyno’r ysgol. Mae Canllaw Llywodraeth Cymru ar Weithdrefnau Cwyno Ysgolion yn datgan:

Os gwneir cwyn yn erbyn llywodraethwr neu grŵp o lywodraethwyr, dylid ei chyfeirio at gadeirydd y llywodraethwyr (cyn belled nad y cadeirydd yw testun y gŵyn). Dylai’r cadeirydd neu lywodraethwr a ddewisir gan y cadeirydd ymchwilio (dylid defnyddio Cam B a chamau dilynol y weithdrefn gwyno). Os caiff y gŵyn ei derbyn, dylai’r pwyllgor cwynion ystyried a ddylid argymell bod rhai neu bob un o’r llywodraethwyr sy’n destun cwyn yn ymddiswyddo neu’n colli eu lle ar y corff llywodraethu. Dylid gofalu nad oes unrhyw lywodraethwyr sy’n gysylltiedig â’r gŵyn yn cael bod yn rhan o’r gwaith ymchwilio, nad ydynt yn aelodau o’r pwyllgor cwynion ac nad ydynt ychwaith yn rhan o unrhyw drafodaeth a phenderfyniadau gan y corff llywodraethu ynghylch yr angen i lywodraethwyr ymddiswyddo neu golli eu lle.

  • Pam bod ymddygiad disgybl unigol wedi’i drafod yn y cyfarfod?

  • Mae Rhan 8, Rheoliad 48 (2) o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005 yn datgan:

  • Caiff y corff llywodraethu dynnu allan o unrhyw eitem y mae angen trefnu iddi fod ar gael yn unol â pharagraff (1) unrhyw ddeunydd yn ymwneud ag—
    – a. person a enwir sy’n gweithio, neu y bwriedir y dylai weithio, yn yr ysgol; neu
    – b. disgybl yn yr ysgol sy’n cael ei enwi, neu un sy’n gwneud cais am le yn yr ysgol; neu
    – c. unrhyw fater arall y mae’r corff llywodraethu yn fodlon y dylai aros yn gyfrinachol oherwydd ei natur.
  • Sut y gwnaeth y llywodraethwr dorri cyfrinachedd?
  • A oes yna unrhyw dystiolaeth ynghylch y torri cyfrinachedd?

  • Mae Rhan 8, Rheoliad 49 o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005 yn datgan:

  • Yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (3) a (4), caiff y corff llywodraethu drwy benderfyniad atal llywodraethwr o’r cyfan neu o rai o gyfarfodydd y corff llywodraethu, neu o bwyllgor, am gyfnod penodol o hyd at 6 mis am un neu ragor o’r rhesymau canlynol—
    – a. bod y llywodraethwr, sydd yn berson a delir i weithio yn yr ysgol, yn destun gweithdrefnau disgyblu mewn perthynas â’i gyflogaeth,
    – b. bod y llywodraethwr yn destun achos mewn unrhyw lys neu dribiwnlys, gyda’r canlyniad efallai y bydd yn cael ei ddatgymhwyso rhag parhau i ddal swydd fel llywodraethwr o dan Atodlen 5 ;
    – c. bod y llywodraethwr wedi gweithredu mewn modd sydd yn anghyson gydag ethos neu gymeriad crefyddol yr ysgol ac wedi dwyn, neu yn debygol o ddwyn anfri ar yr ysgol neu’r corff llywodraethu neu ei swydd ei hun i; neu
    – d. bod y llywodraethwr wedi torri ei ddyletswydd o gyfrinachedd i’r ysgol neu i unrhyw aelod o’r staff neu i unrhyw ddisgybl yn yr ysgol.
  • Pwy fydd yn ymchwilio i’r gwyn?
  • A fydd angen ymgynnull panel o lywodraethwyr i wrando ar y gwyn?
  • Unwaith y mae cwyn wedi ei datrys/delio â hi, gall fod yn briodol i’r cadeirydd gyfarfod y ddau lywodraethwr i weld a oes modd datrys y sefyllfa er budd gorau’r ysgol.