O ganlyniad i Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, a ddaeth i rym ar 4 Mai 2013, nid yw’n ofynnol bellach i gorff llywodraehtu gynnal cyfarfod blynyddol i rieni.
Y rhieni ydy’r prif ran ddeiliaid yn y gymuned ysgol ac mae ganddyn nhw ddiddordeb clir a chryf yn addysg eu plentyn. Mae’n bwysig felly bod y corff llywodraethu yn ymgysylltu’n weithredol gyda rheini ac yn parhau’n atebol trwy roi gwybodaeth a chyfleoedd iddyn nhw drafod a chael mewnbwn i’r ysgol.
Mae’r Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 bellach yn galluogi rhieni disgyblion cofrestredig yn yr ysgol i ofyn am hyd at dri chyfarfod y flwyddyn gyda’r corff llywodraethu trwy gyfrwng deiseb. Darperir crynodeb byr isod.
Rhaid i’r corff llywodraethu gynnal cyfarfod o fewn 25 diwrnod ysgol o dderbyn deisbeb, cyn belled:
Mae’r cyfarfod yn agored i holl rieni disgyblion cofrestredig yn yr ysgol, y pennaeth ac unrhyw berson arall a wahoddir gan y corff llywodraethu. Cyn gynted ag y mae’n rhesymol ymarferol, rhaid i’r corff llywodraethu hysbysu holl rieni disgyblion cofrestredig yn yr ysgol mewn ysgrifen, beth ydy dyddiad y cyfarfod, a’r mater i’w drafod.
Mae rhagor o wybodaeth fanwl ar y gofyniad statudol i’r cyfarfodydd hyn, deisebau a’r broses i gynnal cyfarfodydd ar gael yng nghanllaw Llywodraeth Cymru ar *Cyfarfodydd Rhieni: canllawiau statudol ar gyfer cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir yng Nghymru ynghylch y ddyletswydd i gynnal cyfarfodydd gyda rhieni