Cwestiynau a Ofynnir Amlaf

Beth ydy rolau’r corff llywodraethu a’r pennaeth fel ei gilydd?

Mae angen i bawb dan sylw ddeall yn glir y gwahaniaeth rhwng llywodraethu a rheoli, fel nad oes cais i lywodraethwyr gymryd rhan yn rheolaeth yr ysgol o ddydd i ddydd, ac nad ydyn nhw’n ceisio gwneud hynny chwaith.

Mae’r corff llywodraethu yn cyflawni ei swyddogaethau gyda’r nod o gymryd rôl strategol yn bennaf yn y gwaith o redeg yr ysgol. Mae hyn yn golygu mai’r llywodraethwyr sydd yn penderfynu’r hyn y maen nhw eisiau i’r ysgol ei gyflawni trwy osod y fframwaith strategol, ac mae hynny’n cynnwys:

  • gosod nodau ac amcanion;
  • gosod polisïau, targedau a blaenoriaethau ar gyfer cyflawni’r amcanion;
  • monitro ac adolygu cynnydd; ac
  • adolygu’r fframwaith strategol yng ngoleuni cynnydd.

Mae’r corff llywodraethu yn dibynnu ar yr ysgol i ddarparu’r wybodaeth angenrheidiol iddo i gyflawni’r rôl yma yn effeithiol, a dylai gymryd cyngor gan y pennaeth cyn dod i benderfyniad ar y cyd. Fe rheol fe fydd y Cynllun Datblygu Ysgol a’r Cynllun Gweithredu ôl arolwg, ynghyd â pholisïau cytun, yn darparu’r fframwaith strategol.

Gan weithio’n strategol, dylai llywodraethwyr ddefnyddio unrhyw dystiolaeth monitro i adolygu a gwerthuso cynnydd yn erbyn unrhyw dargedau sydd wedi’u gosod i weld a ydy polisi yn gweithio ai peidio neu oes angen ei newid.

Rhaid i’r corff llywodraethu hefyd weithredu fel ‘ffrind beirniadol’. Mae ffrind beirniadol yn cynnig cefnogaeth, cyngor adeiladol ac mae’n gweithredu fel clust ar gyfer syniadau, ail farn ar gynigion a chymorth lle mae angen. Ond mae ffrind beirniadol hefyd yn gallu herio, holi, chwilio am wybodaeth, gwella cynigion a darganfod yr ateb gorau.

Y pennaeth sydd yn gyfrifol am:

  • y trefnu mewnol;
  • rheolaeth a rheoli’r ysgol; a
  • cynghori ar fframwaith strategol y corff llywodraethu, a’i weithredu.

Mae angen i’r pennaeth yn enwedig:

  • ffurfio nodau ac amcanion, polisïau a thargedau i’r corff llywodraethu ystyried eu mabwysiadu; ac
  • adrodd yn rheolaidd i’r corff llywodraethu ar gynnydd. Mae’r gyfraith yn datgan bod rhaid gwneud hyn o leiaf unwaith bob blwyddyn ysgol, ond rydym yn argymell bod hyn yn digwydd ym mhob cyfarfod o’r corff llywodraethu.

Fel ‘y gweithiwr proffesiynol arweiniol’ mae’r pennaeth yn gyfrifol am ffurfio a gweithredu’r polisïau, am arwain yr ysgol tuag at y targedau a osodwyd ac am gyflawni nifer o gyfrifoldebau ar ran y corff llywodraethu, yn ogystal ag am unrhyw gyfrifoldebau sydd wedi’u dirprwyo gan y corff llywodraethu.

Dylai penaethiaid roi digon o wybodaeth i gyrff llywodraethu er mwyn iddyn nhw deimlo’n hyderus bod y cyfrifoldebau a ddirprwywyd – a chyfrifoldebau’r pennaeth ei hun – wedi cael eu diwallu. Dylai cyrff llywodraethu sicrhau eu bod yn derbyn digon o wybodaeth i’w galluogi i wirio cyflawniadau a chynnydd eu hysgol, dros gyfnod o amser ac mewn cymhariaeth ag ysgolion tebyg.

Ffynhonnell – Rheoliadau Canllaw ar Lywodraeth Ysgol (Cylch Gwaith) (Cymru) 2000, Cylchlythyr Llywodraweth Cynulliad Cymru 34/2000