Mae’n synhwyrol cynllunio ar gyfer cronfa wrth gefn i dalu am gostau ychwanegol a ragwelir. Ond, fe fydd arian dros ben o fwy na 5% neu £10,000 wedi’i gynllunio, pa bynnag sydd fwyaf, fel rheol yn denu ymholiadau gan yr ALl. Gellir ei gyfiawnhau efallai os ydy’r ysgol yn neilltuo arian ar gyfer eitem o wariant mawr.
Dylai cynllun ALl ar gyfer cyllido ysgolion ofyn am ddatganiad gan y corff llywodraethu ynghylch yr hyn maen nhw’n bwriadu ei wneud gyda chyllid ysgol gyda chronfa wrth gefn sydd dros 5% o gyllideb yr ysgol neu £10,000 pa bynnag sydd fwyaf.
Gall yr ALl roi cyfarwyddyd i’r ysgol ynghylch sut i waro arian wrth gefn ym mantolen yr ysgol am gyfnod cyllido os:
Os nad ydy’r corff llywodraethu yn cydymffurfio gyda chyfarwyddyd o’r fath gall, yr ALl ei gwneud yn ofynnol bod y corff llywdraethu yn talu y cyfan o’r arian wrth gefn i’r awdurdod ei ailddosbathu oddi mewn i Gyllideb Ysgolion yr awdurdod lleol.
Lle mae modd imi gael rhagor o wybodaeth am Lywodraethwyr a Chyllid?
Defnyddiwch y “ddolen ganlynol”: http://www.governors.wales/cyhoeddiadau/2014/02/20/canllaw-i-lywodraethwyr-ar-lywodraethwyr-chyllid/ i lawrlwytho Canllaw Llywodraethwyr Cymru ar Lywodraethwyr a Chyllid.