Datganiad O Werthoedd
Cyflwyniad
Mae Llywodraethwyr Cymru’n cefnogi llywodraethu effeithiol pob ysgol yng Nghymru a chefnogaeth broffesiynol a phersonol i bob llywodraethwr unigol. Mae wedi ymrwymo i hyrwyddo a rheoli’n effeithiol ddarpariaeth o ansawdd mewn addysg ac yn ymdrechu i sicrhau trefniadau ar gyfer llywodraethu a fydd yn ddemocrataidd ac yn awdurdodedig. Er mwyn cyflawni’r amcanion hyn, mae Llywodraethwyr Cymru’n ei hystyried yn hanfodol fod gan pob llywodraethwr fodd i dderbyn a chymryd rhan mewn hyfforddiant perthnasol ac effeithiol i’w galluogi i ymgymryd â’r swydd.
Mae Llywodraethwyr Cymru’n ymgeisio i fynegi pryderon a blaenoriaethau pob llywodraethwr ysgol yng Nghymru. Mae rhwydwaith o Gymdeithasau Lleol o Lywodraethwyr a grwpiau eraill tebyg ym mhob ardal awdurdod lleol, yn darparu cyfle i drafod ar lefel leol gan hysbysu’r Pwyllgor Rheoli o’u penderfyniadau. Gwahoddir Llywodraethwyr Cymru gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno arsylwadau ar bolisi addysg arfaethedig neu ddeddfwriaeth, a’i weithrediad.
Lle na all Llywodraethwyr Cymru ragweld natur y materion a’r polisïau y gwahoddir ef i roi sylwadau arnynt, mae cyfres o werthoedd a chredo, rhai sy’n deillio o ddyddiau cynnar y corff yn lliwio ei ddatganiadau, ei flaenoriaethau a’i weithrediadau. Wedi ennill parch a dylanwad yn y gwasanaeth addysg yng Nghymru, y mae efallai yn briodol i Lywodraethwyr Cymru gytuno ar, a chyhoeddi datganiad o werthoedd sylfaenol a rennir gan yr aelodau, a fydd yn fodd i gyfrannu at benderfyniadau, gweithrediadau a datganiadau y corff yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod.
Mae Llywodraethwyr Cymru’n credu
- ei nod yw cefnogi llywodraethu effeithiol ysgolion yng Nghymru a datblygiad proffesiynol a phersonol pob llywodraethwr, beth bynnag fo’r math o ysgol y maent yn ei gwasanaethu.
- mae ei werth fel corff sydd wedi ymrwymo i gefnogaeth ac effeithiolrwydd llywodraethwyr yn gorwedd ar ei annibyniaeth a gall fod angen dylunio mesurau i ddiogelu statws annibynnol Llywodraethwyr Cymru o dro i dro.
- caiff ei effeithiolrwydd ei wella trwy gydweithio a phartneriaeth llwyddiannus gyda Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol yng Nghymru.
- mae buddiannau disgyblion, rhieni a staff ysgol yn cael eu gwasanaethu orau trwy gyfrwng corff llywodraethu effeithiol. Mae’n hanfodol felly fod gan lywodraethwyr fodd i gael hyfforddiant perthnasol i’w harfogi ar gyfer eu rôl.
- mae Llywodraethwyr Cymru yn cefnogi’r farn fod gan lywodraethwyr gyfrifoldeb i gymryd rhan mewn cyfleoedd hyfforddi a ddarperir ar eu cyfer. I gyflawni hyn dylid nodi isafswm hawl i hyfforddiant a dylid darparu cyllid digonol i’r diben hwnnw.
- dylai polisïau ac ymarfer addysg gydnabod a gwasanaethu anghenion y plentyn unigol.
- mae dysgu llwyddiannus angen sefydlu a chynnal partneriaeth effeithiol rhwng y plentyn, y rhieni a’r ysgol ac awdurdodau addysg lleol; a rhwng llywodraeth leol a chenedlaethol.
- dylai strategaethau effeithiol ar gyfer y plentyn unigol gydnabod dewis rhieni a barn broffesiynol athrawon.
- gwasanaethir addysg y Genedl orau trwy wasanaeth sydd yn cynnig cydraddoldeb mynediad a chyfle i bob plentyn;
- dylid ystyried adnoddau addysg fel blaenoriaeth cenedlaethol uchel a dylid penderfynu ar eu dyraniad yn lleol ar sail digonolrwydd, tegwch ac asesu angen;
- gellir cyflawni egwyddorion o degwch a chwarae teg trwy system addysg a gyflwynwyd ac a gynlluniwyd yn strategol ag adnoddau, gyda’i siâp a’i nodweddion yn cael ei benderfynu gan rai sy’n atebol am eu penderfyniadau yn lleol;
- caiff y gwasanaeth addysg ei wasanaethu orau trwy gydweithrediad rhwng ysgolion yn hytrach na strategaethau sy’n gosod hinsawdd o gystadleuaeth rhwng ysgolion â'i gilydd;
- mae dewis ac amrywiaeth yn y system ysgolion yn amcanion clodwiw, cyn belled â bod dewisiadau cyffelyb ar gael i’r holl rieni a’u plant.
- gall rhieni, athrawon a llywodraethwyr elwa oddi wrth wybodaeth yn ymwneud â pherfformiad eu hysgol ac os oes cymariaethau dilys a dibynadwy ar gael, perfformiad ysgolion cyffelyb;
- rhaid i’r cwricwlwm a gynigir i ddisgyblion sicrhau hawliau craidd mewn perthynas â sgiliau sylfaenol cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig a rhifogrwydd. Mae Llywodraethwyr Cymru’n cadarnhau dyluniad a chyflwyniad cwricwlwm sy’n darparu ar gyfer yr hawl hwn ac yn parhau yn ddigon hyblyg i ddiwallu anghenion y plentyn unigol a lleoliad yr ysgol tra’n adlewyrchu hanes, diwylliant a iaith Cymru;
- mae diwallu anghenion gwahanol y plentyn unigol yn ymestyn i gydnabod fod plant unigol yn ymateb yn wahanol i’r amrywiaeth o wahanol strategaethau ar gyfer addysgu a dysgu. Mae Llywodraethwyr Cymru felly yn ystyried y dylai amrywiaeth eang o ddulliau addysgu, ffurfiol ac anffurfiol, ac wedi’i gyfeirio at y dosbarth cyfan, y grŵp bychan a’r plentyn unigol, nodweddu ymarfer da yn y dosbarth. Yn yr un modd dylid ailwerthuso dulliau addysgu yn barhaol yng ngoleuni’r ymarfer.
- dylai cyrff llywodraethu berfformio rolau rhagweithiol wrth fabwysiadu a gweithredu polisïau ar gyfer cyflwyno’r Cwricwlwm Cenedlaethol ac ar gyfer gwelliant parhaus perfformiad eu hysgolion.
- dylai arolygiadau gan ESTYN ddarparu asesiad allanol defnyddiol i rieni, staff a’r corff llywodraethu o berfformiad ysgol ar adeg neilltuol. Mae angen darparu cefnogaeth barhaus i reolaeth a staff yr ysgol er mwyn gwella ysgol. Mae Llywodraethwyr Cymru felly yn ystyried fod system gynhwysfawr wedi’i ariannu’n gywir ar gyfer cefnogaeth, cyngor arbenigol lleol a chyfleoedd hyfforddiant mewn swydd yn elfennau hanfodol mewn codi safonau.
Adolygiad 4
Rhagfyr 2004