Symud i gynnwys | Symud i lywio | Datganiad hygyrchedd
Pennod 3
Tudalen 4, Eitem B – Cyfansoddiad Cyrff Llywodraethu
Paragraff 2 Y pwynt bwled cyntaf – Rhiant-Lywodraethwyr – Rydym wedi dileu’r frawddeg ganlynol: “Ni ddylent fod yn aelodau o’r ALl, nac yn cael eu cyflogi gan yr ALl mewn perthynas â’i swyddogaethau fel ALl, neu’n cael eu cyflogi i weithio dros 500 awr y flwyddyn yn yr ysgol”. Ac rydym wedi cynnwys “I gael rhagor o wybodaeth ewch i baragraff 26”.
Pennod 4
Tudalen 5, Eitem 4B – Clerc y Corff Llywodraethu
Mae paragraff 3 yn nodi “Mae Canolfan Cymru Gyfan ar gyfer Hyfforddi Llywodraethwyr wedi paratoi pecyn hyfforddi i glercod, sydd ar gael o wefan Llywodraethwyr Cymru.” Mae hwn yn anghywir ac wedi’i ddileu’n llwyr.
Pennod 7
Tudalen 1, mae paragraff 7 yn nodi “wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Cymru, Abertawe”. Mae hwn wedi’i ddileu a rhoddwyd “Mae’r manylion cyswllt ar gael ym mharagraff 22” yn ei le.
Pennod 16
Tudalen 4, paragraff 18 – mae’r llinell gyntaf yn nodi “Bydd cyrff llywodraethu ysgolion am nodi’n arbennig…” ac mae’r llinell olaf yn nodi “Ysgrifennodd yr OFT at gyrff llywodraethu ysgolion yng Nghymru a Lloegr yn eu hannog i roi diwedd ar gontractau gwisg ysgol cyfyngedig a sicrhau bod eitemau gwisg ysgol ar gael yn hawdd i’w prynu mewn nifer o siopau. Cynghorodd yr OFT gyrff llywodraethu y gallant benderfynu cymryd camau gweithredu pe bai ysgolion yn parhau â chytundebau cyfyngedig”.
Mae’r brawddegau hyn wedi’u dileu a rhoddwyd “Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn annog cyrff llywodraethu i roi ystyriaeth i’r ffaith bod gwisgoedd ysgol ar gael yn eang wrth iddynt ystyried eu trefniadau ar gyfer cyflenwyr gwisg ysgol” yn eu lle. Dilewyd “siopau” a rhoddwyd “trefniadau” yn ei le.
Pennod 17
Tudalen 1, mae paragraff 2 wedi’i ddileu’n llwyr a rhoddwyd y canlynol yn ei le: “Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi llunio ‘Arweiniad i Gyrff Llywodraethu ynghylch Codi Tâl am Weithgareddau Ysgol’. Ceir yn y ddogfen gyfarwyddyd safbwynt polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru a dehongliad o’r ddeddf berthnasol ynghylch codi tâl am weithgareddau ysgol. Ni cheir cyngor cyfreithiol yn y ddogfen, fodd bynnag, ac nid yw’n ddogfen i’w darllen gan y sawl sy’n chwilio am gyngor cyfreithiol.
Tudalen 7 ychwanegwyd dolen i Arweiniad i Gyrff Llywodraethu ar Godi Tâl am Weithgareddau Ysgol.
![]()
Llywodraethwyr Cymru
Llawr Daear, 3 Llys Oaktree, Rhodfa Mulberry
Parc Busness Porth Caerdydd, Caerdydd. CF23 8RS
Llinell Gymorth: 0845: 0845 60 20 100
Ffôn: (029) 2073 1546 Ffacs: (029) 2073 2448