Symud i gynnwys | Symud i lywio | Datganiad hygyrchedd

Governors Wales Logo

Governors Wales Logo

Llywodraethwyr Cymru

Governors Wales

Read this page in English

 

Helpline

Diweddar Canllaw ar y Gyfraith - Rhagfyr 2010

Pennod 8
Mae paragraff 4 tudalen 1 wedi’i aralleirio i nodi: 'Mae Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (yr SSFA) yn amlinellu’r fframwaith cyfreithiol y mae Awdurdodau Lleol yn ei ddefnyddio i ddyrannu’u gwariant addysg i ysgolion. Daeth Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010 i rym ar 1 Medi 2010 ar gyfer blynyddoedd 2011-12 ymlaen. Maent yn cyfuno ac yn cymryd lle’r rheoliadau cyllido ysgolion canlynol: Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Ariannol AALl) (Cymru) 2004, Rheoliadau Cyllidebau AALl, Cyllidebau Ysgolion a Chyllidebau Ysgolion Unigol (Cymru) 2003 a Rheoliadau Cyfrannau Cyllideb Ysgolion (Cymru) 2004.
Ym mharagraff 6 tudalen 2 mae 'Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010’ yn cymryd lle 'Rheoliadau Cyllidebau AALl, Cyllidebau Ysgolion a Chyllidebau Ysgolion Unigol (Cymru) 2003’.
Ym mharagraff 9 tudalen 2 mae 'Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010’ yn cymryd lle 'Rheoliadau Cyfrannau Cyllideb Ysgolion (Cymru) 2004’.
Mae paragraff 12 tudalen 2 yn cynnwys gwybodaeth sy’n nodi 'Mae Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010 yn cyflwyno darpariaeth newydd o 2011-12 ymlaen. Bydd Awdurdodau Lleol yn gosod cyllideb flynyddol i ysgolion ac yn rhoi rhagolygon o’r cyllidebau ar gyfer y ddau gyfnod cyllido nesaf’.
Ym mharagraff 14 tudalen 2 mae 'Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010’ yn cymryd lle 'Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Ariannol AALl) (Cymru) 2004’, a nodir 'Rhaid i’r fforwm ysgolion gymeradwyo unrhyw ddiwygiadau i’r cynllun. Os bydd y fforwm ysgolion yn gwrthod cymeradwyo’r diwygiadau, rhaid eu cyflwyno i Weinidogion Cymru eu cymeradwyo’.
Ym mharagraff 16 tudalen 3 mae 'Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010’ yn cymryd lle 'Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Ariannol AALl) (Cymru) 2004’ ac mae’n esbonio 'Pan fydd cyllidebau gwarged ysgolion cynradd yn fwy na £50,000, neu £100,000 yn achos ysgolion uwchradd ac ysgolion arbennig, gall awdurdod lleol gyfarwyddo ysgol ynghylch sut i wario’r arian. Os nad yw’r corff llywodraethu’n cydymffurfio â chyfarwyddyd o’r fath, gall yr awdurdod lleol ei gwneud ofyn i’r corff llywodraethu ad-dalu rhan o’r gwarged neu’r gwarged cyfan i’r awdurdod lleol, gan ei roi yn ei Gyllideb Ysgolion’.
Mae paragraff 27 tudalen 4 yn dileu’r paragraff sy’n esbonio y cyflwynir 'Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010’ ar 1 Medi 2010.
Tudalen 6 Y Gyfraith – dileu’r dolenni i Reoliadau Addysg (Cynlluniau Ariannol AALl) (Cymru) 2004; Rheoliadau Cyllidebau AALl, Cyllidebau Ysgolion a Chyllidebau Ysgolion Unigol (Cymru) 2003; a Rheoliadau Cyfrannau Cyllideb Ysgolion (Cymru) 2004.

Pennod 14
Mae’r pwynt bwled cyntaf ym mharagraff 22 tudalen 6 bellach yn nodi:
Gall awdurdodau derbyn ar gyfer ysgolion sydd â chymeriad crefyddol wedi’i ddynodi (ysgolion ffydd) roi blaenoriaeth gyntaf i bob plentyn sy’n derbyn gofal, p’un ai eu bod o’r ffydd honno neu beidio. Yr hyn sy’n ofynnol yw fod yn rhaid iddynt roi blaenoriaeth i blant sy’n derbyn gofal o’u ffydd hwy cyn unrhyw blant eraill o’u ffydd hwy, yna i blant sy’n derbyn gofal nad ydynt o’u ffydd o flaen eraill nad ydynt o’u ffydd.

Pennod 17
Mae paragraff 2 tudalen 1 bellach yn nodi:
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi llunio ‘Arweiniad i Gyrff Llywodraethu ynghylch Codi Tâl am Weithgareddau Ysgol’.
Ym mharagraff 12 tudalen 3 mae saeth ychwanegol yn nodi 'Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm’.

Pennod 19
Ym mharagraff 9 tudalen 3 Mae 'Awdurdodau Iechyd, Ymddiriedolaethau’r GIG’ wedi’u dileu.
Ar dudalen 4 mae paragraff 14 wedi symud i baragraff 12
Ar dudalen 4 mae paragraff 12 wedi symud i baragraff 13 ac mae bellach yn nodi “Os gwneir gwrthwynebiadau statudol i unrhyw gynigion, neu y cynigir newid i gategori, ni fydd yn bosibl i’r cynigion fynd rhagddynt heb gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru”.
Ar dudalen 4 mae paragraff 13 wedi symud i baragraff 14 ac mae bellach yn nodi “Os na dderbynnir gwrthwynebiadau i gynnig, ac nad yw’n golygu newid categori, mae’n rhaid i’r ALl neu gorff llywodraethol benderfynu a ddylid eu cyflawni o fewn pedwar mis i’r hysbysiad am y cynigion gael eu cyflwyno i Lywodraeth y Cynulliad”.
O dan y pennawd canllawiau ar dudalen 5, mae Cylchlythyr Llywodraeth Cynulliad Cymru 21/09 yn lle Cylchlythyr Cynulliad Cenedlaethol Cymru 23/02.

Pennod 25
Islaw paragraff 66 ar dudalen 13 mae’n nodi fel a ganlyn: Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi Canllaw i Ysgolion mwy manwl yng Nghylchlythyr 05/2008 ‘Diogelu Plant mewn Addysg: Rôl Awdurdodau Lleol a Chyrff Llywodraethu o dan Ddeddf Addysg 2002’. Mae hyn yn ychwanegol i ganllaw cynharach Llywodraeth Cynulliad Cymru yng Nghylchlythyr 12/2007 ‘Diogelu Plant: Gweithio Gyda’n Gilydd o Dan Ddeddf Plant 2004’ sy’n amlinellu canllawiau ychwanegol ar ddiogelu mewn Amgylchiadau Penodol.

Dilyn ni ar:
Twitter Twitter Twitter

Twitter

Llywodraethwyr Cymru

Llawr Daear, 3 Llys Oaktree, Rhodfa Mulberry
Parc Busness Porth Caerdydd, Caerdydd. CF23 8RS

Llinell Gymorth: 0845: 0845 60 20 100

Ffôn: (029) 2073 1546 Ffacs: (029) 2073 2448

Telerau ac Amodau