Symud i gynnwys | Symud i lywio | Datganiad hygyrchedd

Governors Wales Logo

Governors Wales Logo

Llywodraethwyr Cymru

Governors Wales

Read this page in English

 

Helpline

Llinell Gymorth

Mae llinell gymorth gyfrinachol Llywodraethwyr Cymru yn darparu cyngor annibynnol a chefnogaeth ar unrhyw bwnc yn ymwneud â llywodraethu ysgolion yng Nghymru, yn amrywio o gyfrifoldebau cyfreithiol, cyfarfodydd a gweithdrefnau pwyllgorau i osod targedau a rhagor.

Mae’r llinell gymorth ar gael o 9.00am tan 10.00pm yn ystod yr wythnos a rhwng 11.00am tan 4.00pm dros y Sul, ac eithrio Gwyliau Cyhoeddus Gwyliau Banc. Mae pob galwad i’r llinell gymorth ar raddfa leol ac mae gwasanaeth dwyieithog ar gael. Gweithredir y llinell gymorth gan dîm arbenigol o staff llinell gymorth a gwirfoddolwyr sydd yn lywodraethwyr ac fe’u cefnogir pan fo angen gan ymgynghorwyr cyfreithiol annibynnol sydd yn cael eu talu ar ran Llywodraethwyr Cymru. Darperir cefnogaeth a hyfforddiant parhaus trwy gyfrwng cyfarfodydd rheolaidd i bawb sydd yn cynorthwyo gyda’r llinell gymorth.

Rydym hefyd ar hyn o bryd yn datblygu ein gwasanaeth ymholiadau trwy e-bost. Efallai yr hoffech e-bostio eich ymholiad am lywodraethu ysgolion i llinellgymorth@llywodraethwyrcymru.org.uk

Cyngor Cyfreithiol Annibynnol

Cefnogir y llinell gymorth gan gyngor cyfreithiol annibynnol a ddarperir gan bractis cyfreithiol cenedlaethol dan froceriaeth Judicium Consulting Ltd. Er fod Llywodraethwyr Cymru yn falch o’i allu i ymateb yn awdurdodol i ymholiadau gan alwadau’r llinell gymorth ac e-byst, trwy gyfeirio at reoliadau statudol a chanllawiau sydd wedi eu cyhoeddi, mae canran cymharol fechan yn creu mwy o anhawster. Yn aml bydd yr ymholiadau hyn yn ymwneud ag amgylchiadau sydd ar ymylon y gyfraith neu lle y gall rheoliadau a chanllawiau ymddangos yn amwys. Gall Llywodraethwyr Cymru ael barn gyfreithiol annibynnol mewn amgylchiadau o’r fath ac felly darparu ymateb i alwyr sydd â sail gyfreithiol, pan fo hynny’n briodol.

Llywodraethwyr Cymru

Llawr Cyntaf, Ty Empire, Sgwar Mount Stuart
Bae Caerdydd, Caerdydd. CF10 5FN

Llinell Gymorth: 0845 60 20 100

Telephone: 02920 48 78 58 Ffacs: 02920 48 78 43

Telerau ac Amodau