Symud i gynnwys | Symud i lywio | Datganiad hygyrchedd

Governors Wales Logo

Governors Wales Logo

Llywodraethwyr Cymru

Governors Wales

Read this page in English

 

Helpline

Newyddion

Cynhadledd Ranbarthol Gogledd Cymru 2008

Mae Llywodraethwyr Cymru yn cynnal cynhadledd ranbarthol yng Ngogledd Cymru ar ddydd Iau 23 Hydref 2008. Cynhelir y gynhadledd yn Venue Cymru, Llandudno.

Thema’r gynhadledd yw Yr Ymchwil am Ragoriaeth.

Nod y gynhadledd yw rhoi amser i lywodraethwyr ysgolion fyfyrio ar eu rôl mewn arwain gwelliant ysgol a’r wybodaeth a’r meddwl diweddaraf gan Lywodraeth y Cynulliad ar amrywiol bynciau. Bydd cyfle hefyd i rwydweithio gyda llywodraethwyr eraill ledled Gogledd Cymru i rannu gwybodaeth a phrofiad o reoli addysg pobl ifanc o 3–19 oed.

Mae Llywodraethwyr Cymru wedi bod yn ffodus i gael siaradwyr gwadd a hwyluswyr uchel eu parch sydd yn barod i rannu eu profiad gyda llywodraethwyr.

Bydd y gynhadledd yn cychwyn am 9.45am ac yn gorffen am 3.45pm. Bydd cyfres o weithdai yn ogystal â chyflwyniadau a gall llywodraethwyr ddewis y gweithdai yr hoffent fynd iddynt. Mae’r sesiynau gweithdy yn cynnwys:

  • Fframwaith Effeithlonrwydd Ysgol
  • Arolwg Estyn: rôl llywodraethwyr
  • Cyfranogiad disgyblion
  • Ffurfio Corff Llywodraethu ardderchog

I archebu e-bostiwch Llywodraethwyr Cymru: contact@governorswales.org.uk. Neu llanwch y ffurflen archebu amgaeedig a’i ffacsio at 029 2048 7843.

Clicwch yma i Agenda
Clicwch yma i Sesiynau Gweithdy
Clicwch yma i Ffurflen Archebu

Sylwadau

Ychwanegu sylw

Llywodraethwyr Cymru

Llawr Cyntaf, Ty Empire, Sgwar Mount Stuart
Bae Caerdydd, Caerdydd. CF10 5FN

Llinell Gymorth: 0845 60 20 100

Telephone: 02920 48 78 58 Ffacs: 02920 48 78 43

Telerau ac Amodau