Symud i gynnwys | Symud i lywio | Datganiad hygyrchedd

Governors Wales Logo

Governors Wales Logo

Llywodraethwyr Cymru

Governors Wales

Read this page in English

 

Helpline

Newyddion

Llywodraethwyr ysgol yn ganolog i’n hagenda o wella ysgolion – neges gan y Gweinidog i Gynhadledd

Mewn araith i lywodraethwyr ysgol yng Ngogledd Cymru mae’r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, wedi siarad am y prif heriau sy’n wynebu ysgolion yng Nghymru. Pwysleisiodd hefyd y gwahaniaeth y gall cyrff llywodraethu gwych ei wneud i berfformiad ysgolion.

Prif sylw’r gynhadledd, sy’n cael ei threfnu gan Lywodraethwyr Cymru, yw’r rôl bwysig sydd gan lywodraethwyr i’w chwarae wrth wella ysgolion a’i nod yw rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf ac arferion da ynghylch llywodraethu ysgolion mewn modd effeithiol.

Yn rhan o’r gynhadledd, cyflwynodd y Gweinidog hefyd gynrychiolwyr o gyrff llywodraethu llwyddiannus yn y Gogledd a dderbyniodd Wobr Efydd y Marc Safon ynghyd â thystysgrifau i ddathlu a gwobrwyo eu harferion da.

Soniodd y Gweinidog hefyd am yr hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi llywodraethwyr yn eu rôl:

“Gwn fod angen i chi, fel llywodraethwyr, fod yn hyddysg yn y maes a chael eich hyfforddi’n briodol i wneud eich gwaith yn effeithiol.

“Mae ein Mesur Addysg (Cymru) 2011 yn caniatáu i Weinidogion Cymru gyflwyno hyfforddiant gorfodol i lywodraethwyr ar faterion a fydd, yn ein barn ni, yn cael yr effaith fwyaf o ran codi safonau llywodraethu. Ymhlith y meysydd hyn fydd ymsefydlu, hyfforddiant i gadeiryddion a gweithio gyda phenaethiaid ar ddata am berfformiad ysgolion. Mae’r Mesur hefyd yn rhoi i mi’r pŵer i bennu cynnwys yr hyfforddiant hwnnw er mwyn i mi fod yn gwbl hyderus y bydd o’r safon uchaf.”

Soniodd y Gweinidog hefyd am yr hyn yr oedd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i godi safonau mewn ysgolion a galwodd ar y llywodraethwyr i leisio barn ynghylch y Bil Addysg newydd a’r ddogfen ymgynghori a gyhoeddwyd ym mis Hydref. Dywedodd:

“Ein rhaglen ddeddfwriaethol yw’r cyfle i chi fynd ati i wneud cyfraniad o bwys at wella ysgolion. Dyma’ch cyfle felly i ddweud eich dweud drwy ddylanwadu ar ein Bil Addysg newydd sy’n ymdrin â meysydd pwysig sy’n cynnwys ymyrryd yn achos ysgolion sy’n destun pryder, trefniadaeth ysgolion a chanllawiau ar wella ysgolion.”

Dilyn ni ar:
Twitter Twitter Twitter

Twitter

Llywodraethwyr Cymru

Llawr Daear, 3 Llys Oaktree, Rhodfa Mulberry
Parc Busness Porth Caerdydd, Caerdydd. CF23 8RS

Llinell Gymorth: 0845: 0845 60 20 100

Ffôn: (029) 2073 1546 Ffacs: (029) 2073 2448

Telerau ac Amodau