Newyddion

O Dda i Ardderchog – stori un ysgol

Mae Ysgol Uwchradd Elfed yn Sir y Fflint wedi gwasanaethu nifer o wahanol gymunedau ym Mwcle a thu hwnt ers 1954. Yn ei hanes cynnar, roedd y disgyblion yn dod o ardaloedd ymhellach i ffwrdd, ond wrth i ysgolion newydd gael eu hadeiladu neu eu hymestyn ac ar ôl i’r Awdurdod Lleol atal ei gefnogaeth ar gyfer trafnidiaeth, gostyngodd y niferoedd a dydy’r adeilad a ddylunwyd ar gyfer 1100 o ddisgyblion erioed wedi bod yn llawn.

Mae cefndiroedd ac anghenion y disgyblion yn amrywiol, ond mae’r ysgol bob amser wedi ymfalchio am fod yn rhywle lle mae croeso i bawb. Yn gynnar yn y 2000au cyffredin oedd cyrhaeddiad a chyflawniad y disgyblion a doedd dim yn arbennig yn yr ysgol. Yn 2006 cafwyd pennaeth newydd, Mrs Rosemary Jones, a dechreuodd adolygu’r staffio a gweithrediadau’r ysgol. Yn 2008, cefais fy mhenodi’n Gadeirydd a dechreuais adolygu’r modd yr oedd y corff llywodraethu’n cyflawni ei waith.

I ddechrau buom yn edrych ar sgiliau a phrofiad y llywodraethwyr o’i gymharu gyda’r hyn y cytunwyd y byddai’n gwneud tîm oedd yn perfformio’n uchel. Trafododd y llywodraethwyr bapurau oedd yn disgrifio beth oedd ‘da’a beth oedd yn gwneud ysgol gymuned ardderchog. Cafodd y rhaglen hyfforddi a datblygu ei theilwra i wella profiadau ac roedd y ‘matrics sgiliau’ yn gymorth i recriwtio’r bobl ‘gywir’. Roedd hyn oll yn ei le erbyn hydref 2010 pan ddaeth Estyn i arolygu’r ysgol gan ddefnyddio’r hyn oedd ar y pryd yn fframwaith newydd.

Yn erbyn cefndir o niferoedd y disgyblion yn gostwng a diswyddiadau staff blwyddyn ar ôl blwyddyn, roedd canlyniadau’r arolwg yn ‘iawn’: roedd 13 elfen yn ‘dda’ a’r Addysgu a Gwella Ansawdd yn ‘ddigonol’.

Gyda’r gwaith eisoes wedi’i gwblhau a’r cynlluniau eisoes wedi’u gwneud roedd yna hyder y gellid gwella’n sylweddol ar hyn. Mewn gwirionedd, roedd yn ddyhead clir ymysg y corff llywodraethu a thîm arwain yr ysgol y dylai’r ysgol fod yn ‘ardderchog ym mhopeth’ yr oedd yn ei wneud.

Felly beth oedd rôl y llywodraethwyr? Dim gwahanol i unrhyw gorff llywodraethu arall yng Nghymru:

  • cytuno ar gyfeiriad strategol ac ethos yr ysgol;
  • y llywodraethwyr yn cadarnhau ac yn ‘berchen’ ar yr holl bolisïau, strategol ac fel arall;
  • mae’r cynllun strategol, sef y Cynllun Datblygu Ysgol, yn ddogfen allweddol sydd yn cwmpasu blaenoriaethau ar gyfer gwelliant ysgol. Efallai mai’r pennaeth ac eraill sydd yn gwneud y gwaith caled o gynhyrchu’r ddogfen ddrafft, ond y corff llywodraethu sydd yn gorfod ei golygu a’i mabwysiadu;
  • mae adolygu’r Cynllun a gwerthuso cynnydd yn cael ei gyflawni trwy strwythur pwyllgorau’r corff llywodraethu. Mae gan bob pwyllgor Gylch Gwaith clir, a chytun;
  • mae gan y llywodraethwyr God Ymddygiad sydd yn nodi disgwyliadau ar gyfer ymddygiad a pherfformiad;
  • mae llywodraethwyr cyswllt, yn cynnwys Saesneg a Llythrennedd, a Mathemateg a Rhifedd yn adrodd i’r corff llywodraethu llawn. Mae disgrifiad o rôl llywodraethwyr cyswllt ar gael ar wefan Llywodraethwyr Cymru;
  • mae llywodraethwyr yn adolygu’r Adroddiad Hunanwerthuso Ysgol (AHY) ac yn ystyried arolygon staff, disgyblion a rhieni. Pan fo gennym y sgiliau a’r profiadau cywir ymysg llywodraethwyr, mae’r gwaith o gydbwyso cefnogaeth gyda holi cwestiynau heriol yn ‘haws’, ond mae hynny’n bwnc arall ynddo’i hun!

Yn hyn i gyd rhaid inni beidio ag anghofio’r peth pwysicaf: mae ansawdd yr addysgu a’r dysgu yn y dosbarth yn hanfodol i blant ‘gyflawni’. Mae athrawon da yn creu amgylchedd ddiogel gyda threfn sydd yn ysbrydoli plant i berfformio’n dda. Mae arweinwyr cryf yn sicrhau bod athrawon yn rhan o’r prosesau o wneud penderfyniadau a rheoli. Mae popeth arall yn rhan o’r mecanweithiau cefnogi i alluogi hyn i ddigwydd, yn dechrau gydag arweinyddiaeth gref gan y llywodraethwyr a rheolaeth yr ysgol. Dydy hi ddim yn ddamwain bod yr holl fframweithiau ansawdd, fel Estyn a’r Model Rhagoriaeth Ewropeaidd, yn canolbwyntio ar arweinyddiaeth, rheolaeth a chyfeiriad strategol. Mae corff llywodraethu hynod o effeithiol yn sicrhau bod y blociau adeiladu yn eu lle i gefnogi arfer addysgu ardderchog.

Ym mis Chwefror 2015, daeth Estyn yn ôl i Ysgol Uwchradd Elfed. Roedd niferoedd y disgyblion yn parhau i ostwng ac roedd diswyddiadau staff yn parhau i fod yn broblem. Er hynny, barnwyd bod yr ysgol yn ‘ardderchog’ am y perfformiad cyfredol a rhagolygon ar gyfer gwelliant, gyda saith arfarniad ‘ardderchog’ arall. Mae hunanwerthusiadau blynyddol yr ysgol wedi hynny wedi gweld yr arfarniadau’n amrywio ac yn newid yn ôl amgylchiadau newidiol, ond nodwyd bob amser ar gamau oedd yn angenrheidiol i gynnal ‘rhagoriaeth’. Diweddarwyd y Cynllun Datblygu Ysgol i gynnwys y camau gwelliant cytun.

Mae’r ysgol wedi parhau i dderbyn cydnabyddiaeth ar lefel rhanbarthol a chenedlaethol ac wedi ei chategoreiddio yn ‘wyrdd’ gan y Consortiwm Rhanbarthol GwE am dair blynedd yn olynnol. Cymrodd disgyblion Ysgol Uwchradd Elfed ran ym mhrofion PISA 2015 ac yn dilyn hynny derbyniodd yr ysgol ei hadroddiad neilltuol, ei hun oedd yn dangos bod y canlyniadau yn sylweddol uwch na’r cyfartaledd ar gyfer Cymru, ac ar y cyd gyda’r gorau yn Ewrop. Doedd hyn ddim yn syndod gan fod canlynadau disgyblion wedi bod yn gyson well na’r rhai a gafodd eu darogan ar eu cyfer gan FFT yn y blynyddoedd diweddar. Derbyniodd y pennaeth, Mrs Rosemary Jones, yr OBE yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd am ei gwasanaethau i addysg.

Yn hwyr yn 2016, yn dilyn asesiad llym gan Ganolfan Ansawdd Cymru, ennillodd yr ysgol y Wobr Ansawdd Cymru, anrhydedd a roddir i’r ychydig gyrff ar draws yr holl sectorau busnes ac addysg, preifat a chyhoeddus, sydd wedi profi eu hunain i fod yn ardderchog yn eu maes ac sydd â thystiolaeth gref i awgrymu y gellir cynnal rhagoriaeth. Mae’r meini prawf a ddefnyddir ar gyfer hyn yr un fath â’r meini prawf ar gyfer Gwobr Rhagoriaeth Ewropeaidd. Ysgol Uwchradd Elfed ydy’r ail ysgol yn unig yng Nghymru i gael ei chydnabod yn y modd yma (Ysgol Bryn Elian ym Mae Colwyn oedd y gyntaf) a’r cyntaf i’w ennill ar y cynnig cyntaf.

Daw’r lefel yma o lwyddiant â’i heriau ei hun, nid y lleiaf ydy cynnydd o 30% yn niferoedd y disgyblion yn y deunaw mis diwethaf (gyda chynnydd tebyg mewn staffio). Mae’r nifer o ddisgyblion gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r rhai sydd â hawl i brydau ysgol am ddim hefyd wedi cynyddu wrth i enw da’r ysgol am roi cefnogaeth iddyn nhw dyfu. Mae Awdurdod Lleol Sir y Fflint wedi bod yn gefnogol iawn wrth roi cyllideb ddiffyg (trwy gynllun dynodedig) hyd nes y bydd y cyllid yn ‘dal i fyny’ gyda niferoedd y disgyblion.

I’r rhai sydd ar fin cychwyn ar eu taith tuag at ragoriaeth neu i’r rhai sydd esioes ar y ffordd sydd eisiau ystyried y cynnydd, mae yna gwestiynau sydd angen eu gofyn:

  • Lle rydyn ni nawr?
  • Lle rydyn ni’n anelu i fod? Erbyn pryd?
  • Beth ydy blaenoriaethau’r ysgol? Sut rydym yn gwybod?
  • Pwy fydd yn gwneud beth? Erbyn pryd?
  • Sut y byddwn yn monitro a gwerthuso cynnydd?
  • Sut y byddwn yn gwybod pryd ac os ydym wedi llwyddo?

Wrth benderfynu pa gamau i’w cymryd rhaid i’r corff llywodraethu ofyn, ‘Os gwnawn ni hyn, beth fydd yn gwella?’ ‘Sut y byddwn yn gwybod i sicrwydd?’

Rhaid i Hunanwerthuso ysgol:

  • bod yn seiliedig ar dystiolaeth;
  • cael ei ddiweddaru’n rheoladd;
  • bod yn werthusiad gonest o gynnydd;
  • bod yn adlewyrchiad cywir o’r hyn y byddai Arolwg Estyn yn ei ddweud;
  • cynnwys arfarniadau sydd yn annog cwestiynau ac yn helpu’r ysgol i symud o ‘dda’ i ‘ardderchog’.

Peth arall pwysig iawn ar gyfer llwyddiant ydy datblygiad a hunanwerthuso’r corff llywodraethu, fel â ganlyn:

Dod yn dîm sydd yn perfformio’n uchel a hunanwerthso
Mae yna wirionedd y mae’n rhaid inni lywodraethwyr ei wynebu: gall ysgol berfformio’n dda gyda chorff llywodraethu sydd yn tanberfforio, ond ni fydd gan ysgol sydd yn methu gorff llywodraethu da. Yn y lle cyntaf, fe fydd gan yr ysgol bennaeth da a staff sydd yn gwneud y pethau cywir yn dda, er gwaethaf y corff llywodraethu. Yn yr ail le, fe fydd corff llywodraethu da yn mynd i’r afael gydag unrhyw faterion sydd yn bygwth integriti’r ysgol neu addysg a llesiant y disgyblion. Ni fydd corff llywodraethu da yn caniatau i ysgol fethu.

Does gan yr un llywodraethwr, yn cynnwys y pennaeth, yr holl sgiliau, gwybodaeth neu brofiad angenrheidiol i weithio ar y lefel uchaf dros gyfnodau hir o amser. Ar gyfer y llwyddiant mwyaf, rydym angen tîm da. Mae pawb yn cyfrannu rhywbeth. Mae arweinwyr cryf yn cydnabod eu gwendidau ac yn sicrhau bod y tîm yn gwneud iawn am hynny.

Nodweddion tîm sydd yn perfformio’n uchel:

  • Mae yna amrediad da o sgiliau, gwybodaeth a phrofiad ymysg y tîm y maen nhw’n fodlon eu rhannu;
  • Mae gwybodaeth a sgiliau unigol a thîm yn cael eu diweddaru’n gyson trwy hyfforddiant a rhannu gwybodaeth. Datblygir gwybodaeth arbenigol fel nad yw’n cael ei golli pan fydd pobl yn gadael;
  • Mae’r llwyth gwaith yn cael ei rannu ac mae gwahanol bobl yn cymryd y rôl o arwain pan fo galw am eu sgil a’u harbenigedd neilltuol; mae’r arweinydd etholedig yn annog ac yn cefnogi hyn;
  • Mae’r tîm yn adolygu ei effeithlonrwydd a’i effeithiolrwydd yn systematig: “Wnaethon ni’r pethau cywir?” “Wnaethon ni’r pethau cywir yn dda?” “Beth sydd angen inni ei newid er mwyn gwella?”

Mae’r adolygiad hwn o effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yn holl bwysig i welliant. Y tro cyntaf i gorff llywodraethu Ysgol Uwchradd Elfed gynnal hunanwerthusiad o’i effeithlonrwydd daeth gwahaniaeth barn diddorol iawn i’r wyneb ac amlygodd y trafodaethau a ddilynodd ddiffyg gwybodaeth am rai agweddau o berfformiad yr ysgol ac, yn ddiddorol iawn, gwahanol bersbectifau o beth ydy ‘da’.

Beth sydd yn gwneud gwahaniaeth rhwng corff da a chorff ardderchog? Mae yna un ffactor hanfodol. Mae’r rhan fwyaf o gyrff da yn foddhal o ran ‘Cynllunio’ a ‘Gwneud’ ond mae’r rhai ardderchog yn wych yn y cyfnod ‘Adolygu’. Hynny yw, maen nhw’n holi cwestiynau am y canlyniadau wrth gwrs, ond maen nhw hefyd yn gofyn, Beth wnethon ni ddysgu o hyn? Sut y gall ein helpu i wella? Ydyn ni’n dal i wneud y pethau cywir? A does dim gwahaniaeth pa mor dda ydyn nhw, maen nhw eisiau gwybod, ‘Beth sydd angen inni ei wneud nesaf? Mae hanes yn llawn cyrff oedd ar un adeg ar flaen y gad, ond wedi methu oherwydd na wnaethon nhw ofyn y cwestiynau yma – neu na wnaethon nhw weithredu ar yr atebion!

Gan gofio hynny, mae’r Templed Hunanwerthuso Corff Llywodraethu Cenedlaethol wedi cael ei gyflwyno i helpu llywodraethwyr i nodi eu cryfderau a meysydd ar gyfer gwelliant. Dydy e ddim yn ateb cyflym. Fel yr Adroddiad Hunanwerthuso Ysgol, mae’n cymryd amser ac ymdrech i’w wneud yn dda a, gydag adnoddau digonol, fe fydd yn annog y corff llywodraethu i ddod yn dîm sydd yn perfformio’n uchel.

Fe fydd yn gymorth i lywodraethwyr gyflawni eu rôl ‘ffrind beirniadol’ gan y bydd unrhyw ddiffyg gwybodaeth neu ddata yn cael ei amlygu ac yn annog y cwestynau priodol. Fe fydd hefyd yn helpu cyrff llywodraethu i baratoi ar gyfer unrhyw fath o asesu neu arolygon allanol, yn cynnwys Estyn.
Mae hunanwerthuso ynddo’i hun yn ddiwerth os nad yw’n arwain at gamau gweithredu ar gyfer gwelliant ac fe fydd y Templed Hunanwerthuso Corff Llywodraethu Cenedlaethol yn amlygu beth sydd yn rhaid inni ei wneud fel llywodraethwyr, i helpu ein hysgol i wella.

Pam? Dylai llywodraethwyr bob amser ganolbwynto ar ddarparu’r addysg gorau posibl i ddysgwyr a sut y mae modd iddyn nhw helpu i godi safonau cyflawniad.

Pwyntiau Hanfodol

  • Ni ddylai unrhyw beth ddigwydd ar ddamwain – mae cynllunio cynhwysfawr yn hanfodol.
  • Rhaid i’r monitro a’r gwerthuso fod yn llym.
  • Mae symud grŵp o bobl o weithgor i fod yn dîm sydd yn perfformio’n uchel yn cymryd amser gydag ymdrech wedi’i ganoli gan arweinydd y grŵp.
  • Does dim gwahaniaeth pa mor dda ydy’r ysgol, fe fydd ysgol ardderchog bob amser eisiau bod yn well.

Mae Ysgol Uwchradd Elfed yn cydnabod nad ydy ‘rhagoriaeth’ yn gyrchfan, mae’n daith; taith sydd yn hawlio cryn dipyn o amser ac arbenigedd y llywodraethwyr ac ar hyd y ffordd mae’n gofyn inni ymdrechu’n barhaus am y canlyniadau gorau posibl i’r holl ddysgwyr, pwy bynnag ydyn nhw a beth bynnag ydy eu gallu. Does dim dianc rhag y ffaith bod y swydd o lywodraethwr ysgol yn golygu gwaith caled ac, ar adegau, pwysau, ond i lywodraethwyr Elfed a’r rhan fwyaf o’r 20,000 a rhagor o wirfoddolwyr di-dâl, mae’n llafur cariad.

Mae fersiwn ar-lein o’r Templed Hunanwerthuso i gyrff llywodraethwyr bellach yn barod i’w ddefnyddio; mae manylion am sut i gael mynediad iddo ar gael ar wefan Llywodraethwyr Cymru

Ray Wells, Cadeirydd y Llywodraethwyr