Symud i gynnwys | Symud i lywio | Datganiad hygyrchedd
Nodiadau Canllaw – Adolygiad 10 Rhagfyr 2012
Croeso i Wobr Efydd Nod Ansawdd i Gyrff Llywodraethu
Rydym yn cydlynu gyda’r holl Awdurdodau Lleol ynghylch y potensial manteisio ar allu a posibl syfrdanol o gyrff llywodraethu sydd i gychwyn y broses.
Yn dilyn peilot llwyddiannus y Wobr Nod Ansawdd Efydd, bydd y wobr gymeradwyogan Lywodraeth Cymru ac ADEW, ar gael nawr o Ebrill 2012.
Yr egwyddor y tu ôl i’r Nod Ansawdd yw ei bod yn gweithredu fel hunan adolygiad i gyrff llywodraethu. Os yw cyrff llywodraethu yn mynd i gael effaith sylweddol ar gyflawniadau ysgolion, mae angen iddynt gael prosesau ac arferion ardderchog i’w dilyn. Os oes gan gyrff llywodraethu y prosesau hyn, gall eu cyfraniad a’u dylanwad wneud gwahaniaeth gwirioneddol i arweinyddiaeth a rheolaeth yr ysgol ac i godi safonau.
Mae’r Wobr Efydd yn darparu meincnod y gall cyrff llywodraethu asesu eu heffeithlonrwydd yn ei erbyn. Mae’r Gwobrau o fudd, nid yn unig i weithrediad yr ysgol o ddydd i ddydd, ond hefyd pan fo’r corff llywodraethu yn paratoi am arolygiadau ac asesiadau, fel Estyn, Buddsoddwyr mewn Pobl, i ddangos bod y corff llywodraethu yn diwallu eu gofynion statudol ayyb. Mae’r Nod Ansawdd wedi’i ganoli ar archwiliad o bolisi a dogfennaeth weithdrefnol ac mae’n ofynnol i gorff llywodraethu adeiladu portffolio o dystiolaeth yn seiliedig ar restr wirio gyda’r nod o wella effeithlonrwydd y corff llywodraethu.
Mae cyflawni’r Wobr Efydd Nod Ansawdd yn ddathliad o lwyddiant y corff llywodraethu a’i rôl o fewn yr ysgol ac o ran codi safonau.
Wedi’i rhannu’n ddwy adran, mae Rhan 1 yn canolbwyntio ar gyfrifoldebau statudol cyrff llywodraethu, ac mae Rhan 2 yn cynnwys gofynion ychwanegol yn seiliedig ar arfer da.
“Mae paratoi ar gyfer cyflwyniad i’r Nod Ansawdd wedi rhoi cyfle ardderchog i’r corff llywodraethu ganolbwyntio ar yr hyn a wnawn ac i feddwl am sut y gallwn wneud pethau’n well.”
“Roedd y broses yn llym ac yn rhoi cyfle gwych i ni fyfyrio ar, a mireinio ein haferion.”
I gael gywbod mwy am y Wobr Nod Ansawdd Efydd, ffoniwch y swyddfa Llywodraethwyr Cymru ar 029 2054 1068.
Gan eich bod wedi cofrestru i gychwyn y Wobr Efydd Nod Ansawdd, cliciwch yma i gael y pecyn cymorth
![]()
Llywodraethwyr Cymru
Llawr Daear, 3 Llys Oaktree, Rhodfa Mulberry
Parc Busness Porth Caerdydd, Caerdydd. CF23 8RS
Llinell Gymorth: 0845: 0845 60 20 100
Ffôn: (029) 2073 1546 Ffacs: (029) 2073 2448