Jane Morris Cyfarwyddwraig
Mae gan Jane radd anrhydedd o Brifysgol Cymru. Cyn ymuno â Llywodraethwyr Cymru bu Jane yn dysgu mewn tair ysgol uwchradd yn Ne Cymru. Mae wedi bod yn athrawes dosbarth ac yn Bennaeth Adran, yn ogystal â Chydlynydd Gwasanaethau Cefnogi i Lywodraethwyr Cymru.
Mae Jane, sydd yn llywodraethwr profiadol, hefyd wedi bod yn Gadeirydd ac yn Is-Gadeirydd dau gorff llywodraethu yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
jmorris@governorswales.org.uk
Ray Wells Swyddog Datblygu’r Gogledd
Mae Ray wedi gwasanaethu am dros 30 mlynedd gyda Corus mewn amrywiol rolau rheoli ac mae ganddo amrediad eang o brofiad mewn rheolaeth Adnoddau Dynol. Mae ganddo wybodaeth arbenigol hefyd o ddefnydd y Model Rhagoriaeth EFQM o fewn amgylchedd addysg mewn meysydd fel cynllunio strategol ac arweinyddiaeth. Mae wedi bod yn uwch asesydd ar gyfer Gwobr Rhagoriaeth Ewropeaidd EFQM a Gwobr Ansawdd Cymru am sawl blwyddyn ac mae hefyd wedi bod yn aelod o Banel Cydnabod Buddsoddwyr mewn Pobl yng Nghymru ers 1997.
Mae gan Ray dros ddeng mlynedd o brofiad o wasanaethu fel llywodraethwr mewn coleg ac ysgol uwchradd yng Ngogledd Cymru.
rwells@governorswales.org.uk
Mike Barker Swyddog Datblygu’r De
Dechreuodd Mike Barker ei waith fel Swyddog Datblygu Llywodraethwyr Cymru ym mis Ebrill 2007.
Cyn ei benodi roedd Mike yn Gyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant ym Mhowys Powys (1992-2005). Mae’n gyn Gadeirydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg yng Nghymru ac yn ymgynghorydd i Gymdeithas Llywodraeth Lleol Cymru.
Ar ôl treulio dros 30 mlynedd yn y gwasanaeth addysg cyhoeddus daw Mike a chyfoeth o brofiad i’w rôl newydd, mae ganddo ddiddordeb penodol hefyd ac arbenigedd mewn cyllido ysgolion a llywodraeth lleol ac ef oedd pensaer y strategaeth cefnogi, hyfforddi ac ymgynghori llywodraethwyr ym Mhowys.
mbarker@governorswales.org.uk
Samantha MacNamara Cydlynydd Gwasanaethau Cefnogi
Ymunodd Sam â Llywodraethwyr Cymru ym mis Tachwedd 2002.
Cyn hynny bu’n Gydlynydd Cyrsiau yng Ngholeg Meddygaeth Prifysgol Cymru ac yn gynorthwy-ydd cyfrifon mewn cwmni diogelwch mawr yn Ne Cymru.
Derbyniodd Sam HND mewn Busnes o Brifysgol Morgannwg ym mis Mehefin 2002 ac yn ddiweddar derbyniodd Ddiploma mewn Cysylltiadau Cyhoeddus.
Mae Sam yn dysgu Cymraeg ac wedi cwblhau cwrs Wlpan yn ddiweddar a bydd yn astudio Cwrs Pellach yn ystod 2009-2010.
smacnamara@governorswales.org.uk
Françoise Stephens Rheolwraig Swyddfa
Yn wreiddiol o Tours yn Ffrainc, mae Françoise Stephens wedi bod yn gweithio bellach i Lywodraethwyr Cymru am dros 10 mlynedd. Mae wedi bod yn dysgu Cymraeg am ddwy flynedd. Yn ogystal â sgiliau clerigol a TG mae ganddi BA mewn Saesneg o’r Académie d’Orléans-Tours, a thystysgrif dysgu ôl raddedig Ffrengig.
fstephens@governorswales.org.uk