Symud i gynnwys | Symud i lywio | Datganiad hygyrchedd

Governors Wales Logo

Governors Wales Logo

Llywodraethwyr Cymru

Governors Wales

Read this page in English

 

Helpline

Y Tîm

Swyddogion

Peter Griffin OBE Llywydd Anrhydeddus Oes

Mae gan Peter Griffin brofiad oes o’r gwasanaeth addysg yng Nghymru a Lloegr. Mae’n gyn bennaeth ysgol gynradd ac mae’n parhau’n aelod gweithgar o Undeb Cenedlaethol Athrawon ac wedi gwasanaethu fel Is Lywydd Cenedlaethol a Llywydd Cenedlaethol cyn ymddeol. Mae’n Gadeirydd Cymdeithas llywodraethwyr Caerdydd ac yn aelod o Bwyllgor Rheoli Llywodraethwyr Cymru ers blynyddoedd.

Terry O'Marah Cadeirydd

Cymhwysodd Terry fel athro ym 1964 a bu’n dysgu yn Sir y Fflint a Chlwyd gan ddod yn Ddirprwy Bennaeth yn Ysgol Uwchradd Glannau Dyfrdwy. Ar ôl 20 mlynedd yn dysgu mewn ysgolion symudodd i weithio i AALl Clwyd. Dros yr 20 mlynedd nesaf bu’n gweithio fel ymgynghorydd ysgolion, swyddog addysg ardal ac yna’n Rheolwr y Gwasanaeth Arolygu/Cynghori ar y cyd ar gyfer y pedwar Awdurdod Unedol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.

Ar ôl ymddeol daeth Terry yn llywodraethwr Ysgol Uwchradd John Summers ac fe’i etholwyd wedi hynny yn Gadeirydd Cymdeithas Llywodraethwyr Sir y Fflint.

Roedd yn un o’r Arolygwyr Cofrestredig Annibynnol cyntaf i gymhwyso yng Nghymru ac arweiniodd arolygiadau o amrediad eang o ysgolion uwchradd ar draws Cymru.

Hugh Pattrick MBE Is-Gadeirydd

Hugh Pattrick yw Is-Gadeirydd Llywodraethwyr Cymru ac mae’n un o gynrychiolwyr Powys ar ei Bwyllgor Rheoli. Ar hyn o bryd mae Hugh yn Gadeirydd Corff Llywodraethu Ysgol Gyfun Maesydderwen, Ystradgynlais ac roedd hefyd yn Gadeirydd Ysgol Thomas Stephens, ysgol gynradd cyfrwng Saesneg ym Mhontneddfechan tan y caewyd hi fis Awst diwethaf fel rhan o’r rhaglen ad-drefnu ysgolion.

Doug Snook Ysgrifennydd

Ar hyn o bryd mae Doug yn ysgrifennydd i Gymdeithas Llywodraethwyr Nedd Port Talbot, ac yn gyn drysorydd i’r gymdeithas. Mae wedi bod yn gadeirydd corff llywodraethu Ysgol Gyfun Dyffryn ers 1993.

Allan Tait Trysorydd

Mae Allan Tait wedi bod yn llywodraethwr ysgol ers 1996. Ar hyn o bryd mae’n gadeirydd corff llywodraethu Ysgol Gynradd Nant Celyn ac Ysgol Gynradd Pontnewydd, y ddwy yng Nghwmbrân. Mae wedi cynrychioli Torfaen ar Bwyllgor Rheoli Llywodraethwyr Cymru ers 1999.

Dilyn ni ar:
Twitter Twitter Twitter

Twitter

Llywodraethwyr Cymru

Llawr Daear, 3 Llys Oaktree, Rhodfa Mulberry
Parc Busness Porth Caerdydd, Caerdydd. CF23 8RS

Llinell Gymorth: 0845: 0845 60 20 100

Ffôn: (029) 2073 1546 Ffacs: (029) 2073 2448

Telerau ac Amodau